Damwain: Rhyddhau dyn ar fechnïaeth
- Cyhoeddwyd

Digwyddodd y ddamwain ddydd Sadwrn
Mae dyn 23 oed gafodd ei arestio mewn cysylltiad â damwain farwol ar Ynys Môn ddydd Sadwrn wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth gan Heddlu'r Gogledd.
Bu farw dyn lleol 32 oed a chafodd tri eu hanafu yn y ddamwain ar yr A5025 i'r gogledd o Lanfaethlu tua 2:00am.
Aed â'r tri a gafodd eu hanafu i Ysbyty Gwynedd, Bangor, ond nid oedd eu hanafiadau yn ddifrifol.
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un â welodd y car Ford Fiesta coch yn cael ei yrru cyn y ddamwain i gysylltu â nhw ar 101.
Straeon perthnasol
- 2 Mawrth 2013
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol