Stephen Jones i ymddeol a throi at hyfforddi

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun, Mae Stephen Jones yn 35 oed

Bydd cyn-faswr Cymru, Stephen Jones, yn ymddeol o rygbi proffesiynol ar ddiwedd y tymor.

Jones sydd wedi ennill y nifer mwya' o gapiau i Gymru - 104 - ac fe fu'n cynrychioli'r Llewod chwe gwaith.

Yn 35 oed, fe fydd yn rhoi'r gorau i chwarae'r gamp.

Bydd yn ymuno gyda thîm hyfforddi clwb y Wasps yn Llundain.