Rheithgor yn ystyried eu dyfarniad ar ôl i ŵr ladd ei wraig
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Andrew Price
Mae John Yates wedi cyfaddef i'r drosedd o ddynladdiad ond mae'n gwadu llofruddio ei wraig
Mae'r rheithgor yn achos dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio ei wraig, cyn rhoi ei chorff yng nghist ei gar, yn ystyried eu rheithfarn.
Mae John Yates, 58 oed o Warrington, wedi ei gyhuddo o guro ei wraig Barbara i farwolaeth ym mis Gorffennaf 2012.
Mae o'n gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth ond mae'n cyfadde' dynladdiad.
Fe yrrodd i swyddfa'r heddlu yn Llanelwy ym mis Gorffennaf y llynedd gyda chorff ei wraig yn ei gar.
Wrth grynhoi'r achos, dywedodd y barnwr Merfyn Hughes QC bod y ffaith fod Mrs Yates wedi tynnu cwyn yn erbyn ei gwr yn ôl ar ôl iddi gael triniaeth ysbyty wedi iddo ei tharo, wedi bod yn gamgymeriad a allai fod wedi achub ei bywyd.
"Os nad oedd o am gael ei wraig doedd neb yn mynd i'w chael," meddai.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- 25 Chwefror 2013
- 21 Chwefror 2013
- 20 Chwefror 2013
- 19 Chwefror 2013
- 19 Tachwedd 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol