Tywysog Cymru i ymweld â Chaerdydd ar Ddydd Gŵyl Dewi

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Bydd y Tywysog a'r Duges hefyd yn ymweld â myfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar eu hymweliad undydd

Bydd Tywysog Cymru a Duges Cernyw yn mynychu gwasanaeth yng Nghaerdydd fel rhan o ddathliadau Gŵyl Dewi yr wythnos nesaf.

Bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal yn Eglwys Sant Ioan y Bedyddiwr yn y ddinas ar Fawrth 1.

Bydd y Tywysog a'r Duges hefyd yn ymweld â myfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn ystod y dydd.

Bydd Y Frenhines Elisabeth II yn ymweld ag Abertawe fel rhan o'r dathliadau ar Fawrth 2.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol