Caerdydd 0-2 Brighton

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
disgrifiad o’r llunAndrea Orlandi yn sgorio i Brighton

Mae mantais Caerdydd ar frig y bencampwriaeth i lawr i bum pwynt ar ôl colli gartref yn erbyn Brighton.

Cyn chwaraewr canol cae Abertawe Andrea Orlandi sgoriodd cyn yr egwyl.

Fe wnaeth cyn gôl-geidwad Manchester United, Tomasz Kuszczak, gyfres o arbedion i rwystro Caerdydd.

A chafodd ergyd Jose Ulloa ei wyro i'r rhwyd yn yr amser ychwanegol ar ddiwedd y gêm i selio'r fuddugoliaeth.

Dyma'r eildro'n unig iddyn nhw golli gartref y tymor hwn.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol