Pob tocyn wedi ei werthu

Cefnogwyr yr Elyrch
Image caption Mae cefnogwyr yr Elyrch yn edrych ymalen

Bydd mwy na 30,000 o gefnogwyr Abertawe yng ngêm derfynol Cwpan Capital One yn erbyn Bradford yn Wembley ar Chwefror 24.

Roedd cannoedd wedi ciwio tu allan i Stadiwm y Liberty pan gafodd y tocynnau eu gwerthu am y tro cynta' ar Ionawr 30.

Prynodd llawer eu tocynnau ar-lein ac erbyn hyn ma'r holl docynnau gafodd eu neilltuo i'r clwb - a 1,000 o docynnau ychwanegol - wedi eu gwerthu.

Bydd y gic gynta' am 4pm.

Curodd Abertawe Chelsea dros ddau gymal yn y rownd gynderfynol.

Enillodd yr Elyrch y cymal cyntaf 2-0 a 0-0 oedd y sgôr yn yr ail gymal wrth i'r Elyrch gyrraedd ffeinal un o brif gystadleuthau pêl-droed Lloegr am y tro cyntaf yn eu hanes.

Yn y cyfamser, mae Abertawe wedi penodi Morten Wieghorst, cyn chwaraewr canol cae Celtic a Denmarc, yn rheolwr cynorthwyol.

Ar hyn o bryd Wieghorst, 41 oed, yw rheolwr Tîm Denmarc o Dan 21.