Pro12: Noson gymysg i'r rhanbarthau

Rabo Direct Pro 12 Image copyright other

Roedd hi'n noson gymysg i ranbarthau Cymru yng Nghynghrair y Pro12 nos Wener.

Roedd y pedwar yn chwarae - y Gweilch ar daith i wynebu Ulster a'r tri arall ar eu tomen eu hunain.

Daeth buddugoliaeth i'r pencampwyr, Y Gweilch, yn erbyn y tîm ar frig y tabl, Ulster.

Roedd hi'n gyfartal 9-9 ar yr egwyl, ond fe ddaeth cais i Ryan Bevington a throsiad i'r ymwelwyr yn yr ail hanner, ac fe ddaliodd y Gweilch eu gafael ar y fantais i ennill o 16-12.

Y rhanbarth arall i ennill nos Wener oedd y Scarlets.

Connacht oedd yr ymwelwyr i Barc y Scarlets, ac er i'r ymwelwyr sgori dau gais i'r un gafodd y Scarlets, y tîm o Lanelli gipiodd y pwyntiau gyda buddugoliaeth o 25-15.

Doedd hi ddim cystal noson i'r Gleision wrth groesawu Leinster i'r brifddinas.

Am yr ail benwythnos yn olynol, roedd yna Wyddelod yn dathlu wrth i Leinster ennill o 26-11 gyda dau gais yn erbyn yr un gafodd Jason Tovey i'r Gleision.

Tom Prydie oedd yr arwr i'r Dreigiau wrth iddyn nhw guro Treviso er iddyn nhw fod ar ei hôl hi am gyfnod hir.

Sgoriodd Prydie gais, dau drosiad a dwy gôl gosb wrth i'r Dreigiau ennill o 23-14.

Canlyniadau

Ulster 12-16 Y Gweilch

Y Gleision 11-26 Leinster

Scarlets 25-15 Connacht

Dreigiau 23-14 Treviso

CANLYNIADAU GEMAU'R PRO 12 - TYMOR 2012/12
CED CON DRE GLA GLE GWE LEI MUN SCA TRE ULS ZEB
Caeredin 12/13/14 Ebr. 3/4/5 Mai 17-21 15/16/17 Chwe. 23-13 16-31 18-23 28-29 22-27 22/23/24 Maw. 41-10
Connacht 23-24 30-11 3/4/5 Mai 9-13 15/16/17 Chwe. 34-6 12-16 11-24 18-3 19/20/21 Ebr. 1/2/3 Maw.
DREIGIAU 32-12 14-3 15/16/17 Chwe. 5-16 3-14 1/2/3 Maw. 19/20/21 Ebr. 29/30/31 Maw. 23-14 19-46 37-6
Glasgow 23-14 27-17 37-6 1/2/3 Maw. 19/20/21 Ebr. 0-6 29/30/31 Maw. 13-18 41-7 22/23/24 Chwe. 22-19
GLEISION 19-21 22/23/24 Chwe. 12-10 3-18 29/30/31 Maw. 11-26 18-24 6-9 34-18 19-48 12/13/14 Ebr.
GWEILCH 22/23/24 Chwe. 26-9 22/23/24 Maw. 10-28 33-12 19-10 30-15 32-3 12/13/14 Ebr. 13-16 16-15
Leinster 22-16 17-0 45-25 22/23/24 Maw. 3/4/5 Mai 5/6/7 Hyd. 22/23/24 Chwe. 15/16/17 Chwe. 29/30/31 Maw. 37-7
Munster 8/9/10 Chwe. 22/23/24 Maw. 33-13 31-3 6-17 1/2/3 Maw. 12/13/14 Ebr. 6-13 19-6 24-10 26/27/28 Hyd.
SCARLETS 1/2/3 Maw. 25-15 24-13 12/13/14 Ebr. I'w drefnu 16-23 45-20 15/16/17 Chwe. 3/4/5 Mai 12-19 22-13
Treviso 19/20/21 Ebr. 29/30/31 Maw. 32-13 26/27/28 Hyd. 22/23/24 Maw. 12-6 18-19 22/23/24 Chwe. 22-20 15-16 26-18
Ulster 45-20 25-0 12/13/14 Ebr. 18-10 3/4/5 Mai 12-16 27-19 20-19 47-17 1/2/3 Maw. 15/16/17 Chwe.
Zebre 29/30/31 Maw. 17-30 22/23/24 Chwe. 8/9/10 Chwe. 7-14 16-34 19/20/21 Ebr. 3/4/5 Mai 22/23/24 Maw. 3-10 25-27

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.