Rali i gofio Tryweryn

Capel Celyn
Image caption Cafodd pentref Capel Celyn ei foddi yn 1965 wedi blynyddoedd o brotestio

Cafodd rali ei chynnal ger Llyn Celyn ddydd Sadwrn i nodi digwyddiad sy'n cael ei ystyried yn un pwysig yn hanes gwleidyddol Cymru.

Ar Chwefror 10, 1963, aeth tri dyn - Emyr Llewelyn, Owain Williams a John Albert Jones - i osod bom mewn trosglwyddydd ar safle gwaith codi argae ar draws Cwm Tryweryn.

Roedd Corfforaeth Dinas Lerpwl wedi llwyddo i newid y gyfraith er mwyn creu cronfa ddŵr, gan foddi pentref Capel Celyn.

Er i 35 o'r 36 Aelod Seneddol o Gymru bleidleisio yn erbyn y mesur (gyda'r llall yn ymatal ei bleidlais) fe gafodd y mesur ei basio.

Mae cyn lywydd Plaid Cymru, yr Arglwydd Wigley, wedi dweud mai boddi Cwm Tryweryn oedd y digwyddiad mwyaf pwysig wrth iddo benderfynu gyrfa wleidyddol.

Flwyddyn wedi i'r cwm gael ei foddi ym 1965, cafodd Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru - Gwynfor Evans - ei ethol yn is-etholiad Caerfyrddin.

Straeon perthnasol