Etholiad: Herio dyfarniad Uchel Lys
- Cyhoeddwyd

Mae cynghorydd Ceidwadol yn herio dyfarniad yr Uchel Lys y dylai roi'r gorau i'w sedd ar gyngor sir.
Cafodd Allan Pennington ei ethol i gynrychioli gogledd Prestatyn yn Sir Ddinbych fis Mai'r llynedd.
Roedd yn credu iddo drechu ei wrthwynebydd Llafur, Paul Penlington, o 508 o bleidleisiau i 366, ond daeth i'r amlwg fod camgymeriad wedi bod wrth gyfri pleidleisiau.
Bythefnos yn ôl newidiodd yr Uchel Lys y canlyniad ar ôl tystiolaeth fod pleidleisiau wedi eu camgyfrif.
Yn sgil hyn roedd 606 o bleidleisiau i Mr Penlington tra oedd 341 i Mr Pennington.
Rhaid i Mr Penlington aros i glywed gan y llys sy'n ystyried gwrthwynebiad ffurfiol Mr Pennington.
Mae Mr Pennington wedi dweud nad yw'n herio'r ffigyrau pleidleisio.
Yn hytrach mae'n dweud na heriodd Llafur y penderfyniad cyn iddo gael ei gyhoeddi a'u bod wedi aros am ychydig o ddyddiau cyn codi'r mater gyda swyddogion y sir.
'Dim byd arall'
"Rwy'n credu y dylid fod wedi apelio ar ddiwrnod y cyfrif," meddai.
"Mae yna lot fawr yn y fantol. Os ydw i'n ildio byddaf yn colli fy mywoliaeth. Rwy'n 60 ddiwedd y mis ac os dwi'n colli'r job does gennyf ddim byd arall."
Ychwanegodd y cyn beiriannydd sy'n gweithio fel gyrrwr tacsi rhan amser: "Os ydw i'n gwbl onest, dwi ddim yn meddwl wna' i lwyddo, ond mae'n rhaid trio."
Dywedodd fod y Blaid Geidwadol wedi ei siomi gan nad oedden nhw wedi cynnig cyngor cyfreithiol iddo.
Mae Mr Pennington wedi mynychu dau o'r 11 o gyfarfodydd cyngor yn ystod y chwe mis diwethaf.
Dywedodd fod hyn o ganlyniad i straen a'i fod wedi hysbysebu'r cyfarfodydd o'i salwch.
Mae Mr Penlington wedi honni bod Mr Pennington yn ceisio arafu'r broses er mwyn cadw ei afael ar y sedd.
"Rwy'n flin am y peth," meddai Mr Pennington. "Ni alla' i gynrychioli'r bobl sydd wedi fy ethol."
Straeon perthnasol
- 23 Ionawr 2013
- 29 Hydref 2012
- 27 Gorffennaf 2012
- 16 Mai 2012