Britton yn arwyddo cytundeb arall

Leon Britton Image copyright Huw Evans picture agency

Leon Britton yw'r chwaraewr diweddaraf i ymrwymo'i ddyfodol gyda Chlwb Pêl-droed Abertawe wedi iddo arwyddo cytundeb newydd gyda'r clwb.

Mae Britton, 30 oed, wedi cytuno i aros yn Stadiwm Liberty am dair blynedd a hanner arall.

Mae'n dilyn ei gyd chwaraewyr Michu, Wayne Routledge, Ashley Williams, Ben Davies a Michel Vorm wrth arwyddo cytundebau newydd gyda'r Elyrch.

Dywedodd Britton ar wefan y clwb: "Rwyf wrth fy modd. Dwi wedi dweud hyn o'r blaen, ond fe fyddwn i'n caru aros yn Abertawe tan ddiwedd fy ngyrfa."