Dal dyn ddihangodd o garchar agored

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Avon and somerset police
disgrifiad o’r llunDihangodd Brian Grady, 26 oed (ei enw arall yw Brian Revill) ar Ionawr 14.

Mae'r heddlu wedi dal dyn 26 oed ddihangodd o garchar agored yng Nghymru ar Ionawr 14.

Cafodd Brian Grady, (ei enw arall yw Brian Revill), 26 oed, ei garcharu am lofruddio a lladrata.

Cafodd y dyn o Fryste isafswm o 11 mlynedd o garchar yn 2003 am lofruddio Liam Attwell.

Roedd Mr Attwell wedi ei drywanu pan heriodd griw o bobl ifanc oedd yn ceisio dwyn ffôn symudol.

Daeth yr heddlu o hyd iddo yn ardal Bryste.

Pan oedd Grady ar ffo cafodd menyw 34 oed o Fryste ei chyhuddo o helpu llofrudd ddianc o garchar agored Prescoed yn Sir Fynwy.

Yr wythnos ddiwetha' plediodd yn euog i'r cyhuddiad a bydd yn cael ei dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ar Chwefror 15.

Straeon perthnasol