West Ham 1-0 Abertawe

Cyhoeddwyd

West Ham 1-0 Abertawe

Andy Carroll, sydd ar fenthyg o Lerpwl, a beniodd i sgorio'r gôl allweddol yn Upton Park wedi 77 munud ar ôl neidio'n uwch na neb arall.

Fe wnaeth gôl-geidwad yr Elyrch, Gerhard Tremmel, arbedion gwych gan Kevin Nolan, Ricardo Vaz Te a Carroll.

Prin iawn oedd cyfleon yr Elyrch, gyda Michu yn penio dros y trawst o chwe llath yn yr ail hanner.

Er y golled, gellid cofio yr oedd 37 pwynt yn ddigon i gadw QPR yn yr Uwchgynghrair ar ddiwedd y tymor diwethaf, ac mae Abertawe o fewn un fuddugoliaeth i'r nod yna a hithau ond yn fis Chwefror.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol