Gohirio gêm Casnewydd yn erbyn Kidderminster

Mae gêm gartref Casnewydd yn erbyn Kidderminster ddydd Sadwrn yng nghynghrair Blue Square wedi ei gohirio.

Oherwydd glaw trwm dros y diwrnodau diwethaf mae 'na ormod o ddŵr ar y cae.

Fe wnaeth y dyfarnwr archwilio'r cae yn Rodney Parade yn gynnar bore Sadwrn a phenderfynu na fyddai'n bosib chwarae.

Does 'na ddim manylion eto am ba pryd fydd y gêm yn cael ei hail chwarae.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.