Mesur i asesu anghenion gofalwyr

Llaw person oedrannus (cyffredinol)
Image caption Mae poblogaeth sy'n heneiddio yn gosod straen ar y sustem gofal cymdeithasol

Bydd mesur newydd gan Lywodraeth Cymru yn asesu anghenion mwy o bobl sy'n gofalu am berthnasau sy'n oedrannus neu'n sâl a methedig.

Fe fydd yn ddyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu anghenion gofalwyr fel rhan o'r Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

Dywed Gweinidogion y bydd yn rhoi mwy o rym i bobl dros y gofal y maen nhw'n ei dderbyn, a rheolaeth dros eu cyllidebau gofal.

Fe fydd y mesur hefyd yn rhoi pwerau newydd i weithwyr cymdeithasol i fynd i mewn i gartrefi a siarad ag oedolion bregus.

Fe fydd y ddeddfwriaeth yn cynyddu nifer y gwasanaethau y gall pobl hawlio arian amdanynt yn uniongyrchol o'u cynghorau lleol.

'Trawsnewid'

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd y mesur yn "trawsnewid" y modd y mae pobl yn derbyn gofal.

Bydd y mesur hefyd yn:

  • Creu meini prawf cenedlaethol fel bod pobl yn derbyn asesiad o'u hanghenion lle bynnag y maen nhw'n byw;
  • Creu asesiadau 'symudol', sy'n golygu na fydd angen asesiad newydd os bydd pobl yn symud i ardal awdurdod lleol gwahanol;
  • Sefydlu gwasanaeth mabwysiadu cenedlaethol;
  • Caniatáu swyddogion cyngor i wneud cais i'r llysoedd fel y gallan nhw fynd i mewn i gartrefi a siarad ag oedolion y maen nhw'n credu sydd mewn perygl.

Byddai'r alwad am asesu anghenion gofalwyr yn cymryd lle'r ddeddf bresennol, sy'n dweud bod rhaid i ofalwyr "roi gofal sylweddol yn gyson" cyn iddyn nhw gael eu hasesu.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd y newid yn symleiddio'r ddeddf, ac yn golygu bod gofalwyr yn cael eu trin yn yr un modd â'r bobl y maen nhw'n gofalu amdanynt.

Mae tua 15,000 o bobl yng Nghymru yn derbyn gofal cymdeithasol bob blwyddyn, ac roedd gwariant ar wasanaethau cymdeithasol yn 2010-11 yn £1.4 biliwn.

Amheuon

Yn y dogfennau sydd wedi eu cyhoeddi gyda'r Mesur, dywed Llywodraeth Cymru fod angen "newidiadau radical" er mwyn ysgafnhau'r pwysau ar wasanaethau.

Mae newidiadau i'r boblogaeth, sy'n heneiddio, yn rhoi mwy o bwysau ar y system.

Wrth siarad ar raglen y Post Cynta' fore Mawrth, dywedodd Delyth Lloyd Griffiths, sy'n ymgynghorydd gwaith cymdeithasol, ei bod yn croesawu rhannau o'r mesur:

"Mae 'na gwynion wedi bod yng Nghymru ynglŷn â phobl sy' wedi symud o un sir i'r llall ac yn gorfod cael eu hailasesu ac mae'r asesiad yna'n wahanol, ac mae'r gwasanaethau maen nhw wedi'u cael ers blynyddoedd yn diflannu ac mae 'na wasanaethau maen nhw'n weld fel llai ffafriol, felly mae rhai pethau yn y mesur sy'n sicr yn symud ni 'mlaen."

Ond mae gan eraill amheuon, fel Mair Jones o Ddinbych - fu'n edrych ar ei ôl ei mam oedd â dementia cyn sefydlu menter gymdeithasol i geisio codi ymwybyddiaeth o gefnogaeth i gynhalwyr yn y gymuned.

"'Does 'na ddim byd yn mynd i newid dros nos achos yr hawl i gael asesiad maen nhw'n dweud," meddai.

"Dydy hynny ddim yn dweud y bydd 'na wasanaethau'n cael eu cynnig i'r gofalwyr.

"Yn sicr, yn y cyd-destun presennol, pryd mae gofalwyr yn dweud wrthon ni eu bod nhw'n wynebu toriadau erchyll mewn gwasanaethau cymunedol, mae 'na beryg y bydd y mesur yma unwaith eto ar bapur ac yn golygu dim byd mewn realiti."

'Llais cryfach'

Fe fydd rheolau ynglŷn â phwy fydd yn gymwys am wasanaethau gofal yn cael eu cyhoeddi gan weinidogion maes o law.

Dywedodd Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas: "Mae'r mesur yn esiampl wych o sut yr ydym yn defnyddio pwerau newydd y Cynulliad Cenedlaethol i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl Cymru.

"Pwrpas y mesur yw rhoi llais cryfach i bobl a mwy o rym dros y gwasanaethau cymdeithasol y maen nhw'n eu defnyddio, ac i'n helpu ni i ateb eu hanghenion amrywiol.

"Rhaid i'r asesiadau ar gyfer defnyddwyr a'u gofalwyr ymwneud â'r canlyniadau sy'n bwysig iddyn nhw, nid dim ond penderfynu ar gymhwyster ar gyfer unrhyw wasanaeth arbennig."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.