Rhybudd llifogydd newydd wrth iddi fwrw glaw yn drwm
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd wedi ei gyhoeddi am fwy o lifogydd lleol yng Nghymru ar ôl i rannau o'r gorllewin ddiodde' dros nos a dydd Sadwrn.
Mae 'na ragolygon am law trwm cyson dros nos i'r rhan fwyaf o Gymru.
Dywedodd Asiantaeth yr Amgylchedd y dylai pobl fod yn wyliadwrus ac fe rybuddwyd bod amgylchiadau gyrru yn gallu bod yn beryglus.
Mae disgwyl i unrhyw eira sy'n dal o gwmpas ddadmer yn sydyn iawn gan ychwanegu at lefel y dŵr.
Fe wnaeth glaw trwm ac eira'n dadmer arwain at lifogydd yng ngorllewin Cymru nos Wener a bore Sadwrn.
Bu'r gwasanaethau brys yn ymateb i tua 300 o alwadau ac fe gafodd mwy o eira effaith mewn rhannau o'r gogledd.
Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a rhannau o Abertawe sydd wedi diodde' llifogydd ac mae 'na rai achosion hefyd wedi eu cofnodi yn y de ddwyrain.
Ymhlith yr ardaloedd i ddiodde' waetha oedd Solfach yn Sir Benfro.
Ansefydlog
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bod 'na fygythiad i tua 60 o dai yno ar un cyfnod ar ôl i afon orlifo ei glannau.
Yn ôl diffoddwyr roedd 'na hyd at 3 troedfedd o ddŵr mewn mannau a rhai cartrefi wedi eu heffeithio.
Dywedodd rheolwr yr orsaf dân, Craig Thomas, bod tua 25 o ddiffoddwyr wedi eu galw i ddelio a'r llifogydd nos Wener.
"Fe orlifodd Afon Solfach tua 10.30pm gan fygwrth degau o gartrefi.
"Cafodd diffoddwyr o Dyddewi, Hwlffordd ac Aberdaugleddau eu galw hefyd.
"Fe wnaethon ni ddargyfeirio'r dŵr ac erbyn tua 1.30am roedd lefel yr afon wedi gostwng ac roedden ni'n gallu pwmpio lot o ddwr oedd wedi llifo i ffwrdd."
Mae disgwyl i'r glaw glirio yn gynnar ddydd Sul cyn y bydd cawodydd trwm yn dychwelyd yn y dydd a dros nos i ddydd Llun.
Mae disgwyl i'r tywydd ansefydlog barhau tan yr wythnos nesaf.
Straeon perthnasol
- 26 Ionawr 2013
- 26 Ionawr 2013