Damwain: Menyw yn yr ysbyty

Published

Cafodd menyw ei thorri'n rhydd o'i char yn dilyn damwain ger Meifod ym Mhowys.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw am 745am ddydd Llun wedi i'r cerbyd fynd lawr llethr.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru y cafodd y fenyw ei chludo i'r ysbyty.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol