BBC Cymru Fyw

Dod o hyd i ddau blentyn ar goll

Published
image copyrightWest Midlands Police
image captionSophie Fletcher a'i brawd Jack
Cafwyd hyd i ddau blentyn oedd ar goll.
Ddydd Mercher roedd Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr yn credu efallai eu bod wedi teithio ar drên i Geredigion.
Ond nos Fercher daeth ffrind teuluol o hyd i Sophie Fletcher, 12 oed, a'i brawd, Jack, 10 oed, yng Ngorsaf Fysiau Darlaston yn Walsall.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn ddiolchgar am help y cyhoedd.

Straeon perthnasol

  • Dau blentyn ar goll yng Nghymru?