Etholiad: Newid canlyniad ym Mhrestatyn

Allan Pennington (ch) a Paul Penlington (dde)
Image caption Derbyniodd Allan Pennington (chwith) bleidleisiau a oedd i fod i Paul Penlington, yr ymgeisydd Llafur

Mae llys wedi newid canlyniad etholiad cyngor sir am fod pleidleisiau ymgeisydd Llafur wedi eu rhoi i ymgeisydd Ceidwadol gydag enw tebyg.

Enillodd y Ceidwadwr Allan Pennington sedd Gogledd Prestatyn yn sir Ddinbych gyda 580 o bleidleisiau ac fe gafodd ei wrthwynebydd o'r Blaid Lafur, Paul Penlington 366 o bleidleisiau.

Ond yn dilyn gorchymyn gan Yr Uchel Lys fe gynhaliwyd ailgyfrif.

Y tro hwn curodd Mr Penlington Mr Pennington o 606 pleidlais i 341.

Costau cyfreithiol

Cafodd canlyniad yr etholiad ei gadarnhau ddydd Mercher ar ôl i'r ailgyfrif gael ei gynnal o flaen swyddog o'r cyngor sir.

Mae gan Mr Pennington tan Chwefror 1 i apelio yn erbyn y penderfyniad.

Gwall dynol oedd ar fai am y camgymeriad ym mis Mai 2012 yn ôl y cyngor sir.

Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych ar y pryd y byddai'r canlyniad wedi cael ei newid pe bai'r pleidleisiau wedi cael eu dosbarthu'n gywir.

Mae dau farnwr Llys Etholiad arbennig wedi derbyn y canlyniad fydd yn dod i rym ymhen saith niwrnod.

Mae disgwyl i'r costau cyfreithiol fod yn fwy na £20,000

Llafur yw plaid fwyaf Cyngor Sir Ddinbych yn dilyn etholiadau 2012 ond mae'r cyngor yn cael eu rheoli gan glymblaid a arweinir gan gynghorwyr annibynnol.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.