Y Prif Weinidog yn addo refferendwm ar Ewrop

David Cameron
Image caption Roedd y Prif Weinidog i fod i gyflwyno'i araith ar Ewrop ddydd Gwener ond cafodd ei gohirio oherwydd yr argyfwng yn Algeria

Mae'r Prif Weinidog, David Cameron, wedi addo y bydd refferendwm yn cael ei chynnal ar ddyfodol Prydain yn Ewrop os bydd y Ceidwadwyr yn ennill yr etholiad cyffredinol nesa'.

Mewn araith hir ddisgwyliedig yn Llundain fore Mercher, dywedodd y byddai maniffesto ei blaid yn gofyn am fandad i geisio cael cytundeb newydd i Brydain gyda'i phartneriaid Ewropeaidd. Ar ôl dod i gytundeb, meddai, byddai ei lywodraeth yn rhoi dewis syml i'r etholwyr - un ai aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd (UE) neu adael.

Addawodd Mr Cameron i gynnal refferendwm yn ystod hanner cynta' ei lywodraeth nesa' - cyn diwedd 2017 fan bella' - petai ei blaid yn cael ei hailethol.

Ond wnaeth o ddim manylu ar ba bwerau yr hoffai weld yn dod yn ôl i Brydain fel rhan o unrhyw setliad newydd, neu beth a fyddai'n digwydd petai ddim yn llwyddo yn y trafodaethau.

Yn ôl arweinydd Llafur, Ed Miliband, roedd y Prif Weinidog yn "wan" ac yn gadael i "ddiddordebau ei blaid" ei arwain.

'Trawsnewid'

Er bod rhai yn galw am refferendwm o'r fath nawr, dywedodd Mr Cameron nad oedd yn cytuno â hynny gan fod yr UE yng nghanol newid mawr ac nad oedd yn eglur beth fyddai'n digwydd yn y dyfodol.

"Bydd yr Undeb Ewropeaidd sy'n dod allan o argyfwng parth yr Ewro yn gorff tra gwahanol," meddai Mr Cameron. "Bydd yn cael ei drawsnewid, falle'n llwyr, gan y newidiadau angenrheidiol i achub parth yr Ewro."

Ychwanegodd ei fod eisiau i bobl Prydain gael "gwir ddewis rhwng gadael neu fod yn rhan o setliad newydd, ble byddai Prydain yn llunio a pharchu rheolau marchnad sengl ond yn cael ei hamddiffyn hefyd, ac yn rhydd o'r rheolau annilys sy'n niweidio gallu Ewrop i fod yn gystadleuol."

Yn ystod ei araith, cyfeiriodd y Prif Weinidog at amcanion yr UE - a'u bod wedi newid o'r amcan gwreiddiol i ddiogelu heddwch i "brif amcan heddiw i ddiogelu ffyniant."

Dywedodd fod yr her erbyn hyn yn dod o'r tu allan i'r cyfandir, gan economïau sy'n tyfu yn y dwyrain a'r de.

'Rheolau cymhleth'

Gyda'r dasg o geisio cadw'r ddwy ochr yn hapus, roedd Mr Cameron yn awyddus i bwysleisio nad oedd eisiau i Brydain droi ei chefn ar yr UE, ond ei fod eisiau gwell cytundeb i'r wlad.

Cyfeiriodd at y problemau o fewn yr UE - o argyfwng yr Ewro, i'r heriau cystadleuol a'r "bwlch rhwng yr UE a'i ddinasyddion."

Yn ôl Mr Cameron, mae'n hollbwysig i'r undeb edrych ar y "rheolau cymhleth sy'n cyfyngu ar ein marchnadoedd llafur".

Pwysleisiodd bwysigrwydd y farchnad sengl a'r angen i Brydain amddiffyn hygrededd a thegwch y system i holl aelodau'r UE.

"Ein cyfraniad i'r farchnad sengl a'n gallu i helpu i lunio'r rheolau yw'r prif reswm dros ein haelodaeth o'r UE," meddai.

Soniodd hefyd fod "pobl yn gynyddol rwystredig fod penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn bellach a phellach oddi wrthynt yn golygu bod eu safonau byw'n diodde' a'u trethi'n cael eu defnyddio i achub llywodraethau eraill ar ochr arall y cyfandir."

'Goblygiadau cyfansoddiadol'

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, y byddai araith Mr Cameron yn "ansefydlogi" dyfodol y DU.

"Yn ddiamau," meddai Mr Jones, "mae gan araith y Prif Weinidog oblygiadau cyfansoddiadol i'r DU. Mae'n chwarae i ddwylo'r rheiny sydd eisiau torri fyny'n DU.

"Ar yr adeg hollbwysig yma, mae'r trywydd yma'n tynnu'r sylw oddi wrth yr hyn y dylen ni fod yn ei wneud - canolbwyntio'n holl ymdrechion ar greu swydd a thyfu'r economi yn y DU ac yng Nghymru."

"Y gwir amdani o ran Cymru, mae cwmnïau o'r tu allan i'r UE yn sefydlu yng Nghymru er mwyn cael mynediad i'r farchnad Ewropeaidd anferth. Petai Cymru a'r DU ddim yn yr UE, byddai'r prif reswm yma'n diflannu a byddai'r buddsoddiad a'r swyddi yn mynd i rywle arall."

'Trafodaeth agored'

Galwodd Plaid Cymru ar i Gymru gael chwarae rôl fwy amlwg a phositif o fewn yr UE.

"Rydym ni yng Nghymru angen cyllid yr UE i gryfhau'n heconomi, datblygu isadeiledd a chreu swyddi hollbwysig yn ein hardaloedd tlotaf," meddai Aelod Seneddol Ewropeaidd y blaid, Jill Evans.

"Rydym angen trafodaeth agored ac onest am ddyfodol Cymru o fewn yr UE fel y gall pobl Cymru benderfynu ar eu dyfodol eu hunain. Beth sydd gennym nawr yw pleidiau'n ceisio am y gorau i godi amheuon am Ewrop, gan anwybyddu beth fyddai o fudd i Gymru."

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol y byddai ceisio cael cytundeb newydd i Brydain o fewn yr UE yn achosi ansicrwydd ac yn atal buddsoddiad tramor.

Ac yn ôl plaid annibynnol UKIP, "roedd y drafodaeth wedi dechrau" ar y posibilrwydd o adael yr UE.

Straeon perthnasol