BBC Cymru Fyw

Treviso 17-14 Gweilch

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
image captionTom Isaacs gafodd unig gais y Gweilch
Treviso 17-14 Gweilch
Daeth tymor y Gweilch yn Ewrop i ben gyda smonach yn Yr Eidal brynhawn Sul.
Gyda chwe munud yn wedill, roedd y Gweilch yn gyffyrddus ar y blaen o 14-3 wrth chwilio am fuddugoliaeth i godi'r ysbryd cyn gweddill y tymor yn y Pro12.
Yn lle hynny fe gafwyd chwalfa amddiffynol a welodd y tîm cartref yn sgorio dau gais, a'u trosi, i guro'r Gweilch yn yr eiliadau olaf.
Roedd y Gweilch eisoes yn gwybod na fydden nhw'n aros yng Nghwpan Heineken, ond gyda Treviso ond wedi llwyddo i un ennill un pwynt bonws wrth golli bob gêm yn y gystadleuaeth hyd yma, roedd y gobeithion yn uchel wrth deithio i'r Eidal.
Mewn hanner cyntaf digon difflach, dim ond y ddau giciwr lwyddodd o sgorio. Dan Biggar yn rhagori ar Kris Burton o 6-3 ar yr egwyl.
Ond fe ymestynnodd y Gweilch eu mantais wrth i Tom Isaacs groesi am gais cynta'r gêm yn yr ail hanner, ac er na lwyddodd Biggar gyda'r trosiad, fe ychwanegodd driphwynt arall i roi mantais o 14-6 i'r ymwelwyr gyda'r gêm yn dirwyn i ben.
Hyd yn oed pan groesodd Alessandro Zanni wedi 74 munud, roedd y fuddugoliaeth yn ymddangos yn ddiogel. Gyda throsiad Burton yn ei gwneud hi'n 14-10, y cyfan oedd rhaid i'r Gweilch wneud oedd amddiffyn am bum munud arall.
Ond gyda llai na munud yn weddil ar y cloc, fe groesodd Andrea Pratichetti am gais arall i roi Treviso ar y blaen, ac fe lwyddodd Burton gyda'r trosiad i roi halen ar friw agored yr ymwelwyr.