BBC Cymru Fyw

Gleision 26-14 Sale

Published
image copyrightGetty Images
image captionLloyd Williams gafodd y cais cyntaf i'r Gleision
Gleision 26-14 Sale
Fe ddaeth buddugoliaeth i'r Gleision yng Nghwpan Heineken, ond yn llawer rhy hwyr yn y dydd.
Sale oedd yr ymwelwyr i Barc yr Arfau, a nhw aeth ar y blaen diolch i gais Tommy Taylor a throsiad Rob Miller.
Roedd y Gleision yn bygwth cryn dipyn, ond dim ond o droed Leigh Halpenny yr oedden nhw'n sgorio. Fe gafodd Halfpenny dair cic gosb i roi'r Gleision ar y blaen 9-7 ar yr egwyl.
Ond yna fe darodd yr ymwelwyr yn gynnar yn yr ail gyfnod. Aston Croall groesodd am y cais y tro hwn, a gyda chic gywir Miller roedd y fantais yn 14-9.
Roedd angen rhywbeth go arbennig, ac fe gafwyd hynny gyda bylchiad Lloyd Williams cyn iddo groesi am gais ardderchog i unioni'r sgôr, ac fe drosodd Halfpenny'r cais i roi'r Gleision ar y blaen.
Erbyn hyn roedd y tîm cartref yn pwyso'n gyson ac fe ddaeth ail gais i'r Gleision gyda chwe munud yn weddill.
Michael Paterson groesodd y tro hwn, ac roedd Halfpenny'n llwyddiannus eto am y ddau bwynt ychwanegol.
Ychwanegodd Halfpenny gic gosb arall yn y funud olaf i gwblhau'r fuddugoliaeth.
Mae canlyniadau'r Gleision yn y gwpan wedi bod yn hynod siomedig y tymor hwn, ond fe fydd y fuddugoliaeth wag yma yny gêm olaf yn rhywfaint o gysur.