BBC Cymru Fyw

Abertawe 3-1 Stoke City

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
image captionY cefnwr ifanc Ben Davies roddodd Abertawe ar ben ffordd
Abertawe 3-1 Stoke City
Cafodd Abertawe fuddugoliaeth arall yn Stadiwm Liberty wrth i Stoke City ymweld ddydd Sadwrn.
Digon difflach oedd yr hanner cyntaf ar brynhawn oer, ac roedd hi'n syndod gweld Michu yn methu cyfle gorau'r hanner pan fethodd a tharo'r nod gydag ond y golwr i'r guro.
Ond fe newidiodd pethau'n fuan yn yr ail gyfnod. Wedi 49 munud aeth yr Elyrch ar y blaen, a hynny o ffynhonell annisgwyl.
Roedd y cefnwr ifanc Ben Davies wedi ymuno gyda'r ymosod, a phan ddaeth Ki Sung Yeung o hyd iddo yn y cwrt cosbi, roedd ei ergyd yn berffaith i gornel y rhwyd.
O fewn wyth munud roedd yr Elrych wedi dyblu'r fantais.
Roedd y gic rydd gan Jonathan De Guzman o 20 llath yn werth ei gweld, gan daro cornel ucha'r rhwyd i'w gwneud hi'n 2-0.

Wembley?

Erbyn hyn roedd tîm Michael Laudrup yn meistroli'r gêm yn llwyr, a deng munud cyn y chwib olaf fe ychwanegodd De Guzman ei ail, a thrydedd Abertawe.
Mae sibrydion yn awgrymu fod Danny Graham ar fin gadael y Liberty, ond ef gododd o'r fainc i greu'r drydedd, ac fe gafodd y ffyddloniaid i'r Liberty gip ar chwaraewr newydd yr Elyrch, Roland Lamah, pan gododd yntau hefyd o'r fainc.
Cyn y diwedd fe ddaeth gôl gysur i Stoke gan eilydd arall, ond un reit enwog, wrth i Michael Owen sgorio gyda'i ben yn yr eiliadau olaf.
Fe fydd y tri phwynt yn hwb enfawr i Abertawe yn y tabl, ac fe all Michael Laudrup a'i dîm droi eu golygon at ymweliad Chelsea â'r Liberty nos Fercher wrth iddyn nhw geisio ennill eu lle yn rownd derfynol Capital One yn Wembley.

Straeon perthnasol

  • Abertawe yn cael buddugoliaeth yn erbyn Fulham