Cynllun pleidiau am fanciau busnes

Financial market Image copyright AP
Image caption Dywed gwleidyddion nad yw'r banciau wedi dysgu'u gwers wedi'r chwalfa ariannol

Gallai busnesau fenthyg arian cyhoeddus drwy law banciau y Stryd Fawr o dan gynllun sy'n cael ei gynnig gan y Ceidwadwyr Cymreig.

Mae Plaid Cymru hefyd wedi datgelu cynllun am fanciau rhanbarthol i gynorthwyo busnesau bach a chanolig eu maint.

Dyma ymateb y pleidiau gwleidyddol i bryderon nad yw'r banciau wedi bod yn ddigon parod i fenthyg arian ers y wasgfa ariannol.

Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adolygiad o'r trafferthion y mae busnesau bach yn eu hwynebu wrth geisio benthyg arian.

Chwe rhanbarth

Dywed y Ceidwadwyr eu bod am sefydlu gwasanaeth 'Buddsoddi Cymru'.

Byddai'r gwasanaeth yn cael ei sefydlu drwy ad-drefnu Cyllid Cymru - yr asiantaeth sy'n berchen i Lywodraeth Cymru sy'n benthyg arian i fusnesau.

Dywed y blaid mai rhy 'chydig o bobl fusnes sydd wedi clywed am Cyllid Cymru, a bod eu benthyciadau yn rhy fawr i lawer o fusnesau bach.

Fe fyddai llywodraeth Geidwadol yng Nghaerdydd yn rhannu Cymru yn chwe rhanbarth - bob un gyda chymeriad economaidd ei hun - a gwahodd ceisiadau i redeg cynllun Buddsoddi Cymru.

Gallai banciau neu swyddfeydd post wedyn gynnal y gwasanaeth yn y gobaith y byddai hynny'n gwneud arian cyhoeddus o fewn cyrraedd busnesau lleol.

Cardiau credyd

Fe fyddai cynllun 'Banc Cymru' Plaid Cymru hefyd yn gweithio ar sail ddaearyddol.

Fel y Ceidwadwyr, mae syniad Plaid yn seiliedig ar fanciau Almaeneg o'r enw Landesbank.

Dywed Plaid bod angen gwasanaeth tebyg ar Gymru gydag arbenigedd mewn diwydiannau lleol.

Cafodd yr enw 'Banc Cymru' ei brynu gan Fanc yr Alban, ond dywed Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Alun Ffred Jones, y dylid ei ddefnyddio unwaith eto.

Dywedodd y byddai comisiwn economaidd y blaid yn ymchwilio i'r cynllun.

"Yn rhy aml rydym yn clywed straeon am berchnogion busnesau sydd wedi gorfod defnyddio cardiau credyd eu hunain i dalu am gynlluniau i dyfu gan nad yw banciau sy'n torri nôl ar gyfalaf yn fodlon ymrwymo i gynlluniau i wella Cymru," meddai.

'Gwerth am arian'

Dywedodd y Ceidwadwyr nad ymgais yw 'Buddsoddi Cymru' i adeiladu banc o ddim byd, ond i ddefnyddio'r berthynas "cyfarwydd" sydd gan reolwyr banciau gyda'u cymunedau lleol.

Byddai benthyciadau o £1,000 i £1 miliwn ar gael. Fe fyddai Cyllid Cymru yn parhau i ariannu busnesau mwy.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar gyllid, Paul Davies: "Fe fyddai 'Buddsoddi Cymru' yn fanc lleol ar lwyfan cenedlaethol, ac fe allai hynny ddarparu'r adnoddau sydd angen ar fusnesau i weithredu'n gyflym ac effeithlon.

"Wrth gwrs fe fyddai angen sicrhau craffu priodol i wneud yn siŵr bod y trethdalwr yn cael gwerth am arian."

Dywedodd Iestyn Davies, pennaeth materion allanol gyda Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, bod banciau yn rhy brysur yn adfer eu mantolenni ariannol yn hytrach na chefnogi busnesau i dyfu.

"Mae'r gefnogaeth ddiweddar i'r syniad o ateb lleol i'w groesawu," meddai.

"Mae ein cynadleddau polisi diweddar ac ymchwil wedi awgrymu y gallai model rhanbarthol, fel sy'n cael ei ddefnyddio'n helaeth ar draws yr Unol Daleithiau ac Ewrop, fod o gymorth i Gymru."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.