BBC Cymru Fyw

Caffi: 11 yn colli eu gwaith ym Machynlleth

Published
image captionY Ganolfan Dechnoleg Amgen oedd yn rhedeg siop a chaffi'r Chwarel
Mae siop a chaffi ym Machynlleth wedi cau gyda 11 o bobl yn colli eu swyddi.
Y Ganolfan Dechnoleg Amgen oedd yn rhedeg siop a chaffi'r Chwarel ers iddyn nhw agor ym 1979.
Cafodd y staff eu hysbysu bod y siop a'r caffi ar Stryd Maengwyn yn cau'n syth pan ddaethon nhw i'r gwaith fore Gwener.
Dywedodd llefarydd ar ran y ganolfan nad oedd y busnesau'n "gynaliadwy'n economaidd".
Y Ganolfan Dechnoleg Amgen plc yw rhan fasnachol elusen y Ganolfan Dechnoleg Amgen sy'n canolbwyntio ar gyfleu gwybodaeth am dulliau'r dechnoleg amgen.
Dywedodd llefarydd na fyddai cau'r busnesau'n effeithio ar y gwaith elusennol.