BBC Cymru Fyw

Y Dreigiau yn colli o bwynt yn erbyn Wasps yng Nghwpan Amlin

Published
image captionMike Poole yn colli gafael o dan bwysau gan Andrea Masi
Y Dreigiau 19-20 Wasps
Llwyddodd Wasps i sicrhau y byddan nhw'n chwarae adre yn rownd yr wyth olaf o Gwpan Amlin ar ôl trechu Dreigiau Gwent o bwynt.
Sgoriodd y Cymro Nicky Robinson 15 pwynt gyda chais a dau drosgais a dwy gic gosb i'r ymwelwyr.
Cafodd Wasps gais gosb hefyd.
Dan Evans gafodd unig gais y Dreigiau gyda Tom Prydie yn trosi ac yn llwyddo gyda dwy gic gosb.
Roedd y timau'n gyfartal 13 yr un ar yr hanner.
Ond doedd tîm Dai Young ddim yn barod i ddychwelyd i Lundain wedi colli.
Yn yr ail hanner fe wnaeth Robinson sichrau hynny gyda'i gais.
Collodd Prydie gic gosb cyn i'r eilydd Steffan Jones lwyddo a dod a'r tîm cartref o fewn pwynt gyda chwe munud i fynd.
Ond methodd y Dreigiau i ganfod unrhyw gyfle cyn diwedd yr 80 munud.
Llwyddodd Wasps i guro'r Dreigiau am yr eildro yn y gystadleuaeth ar ôl eu trechu 38-25 ym Mharc Adams.