BBC Cymru Fyw

Marwolaeth 'ddim yn amheus'

Published
image copyrightCarl Jones
image captionCafodd yr heddlu eu galw i'r ardal yng Nghaerffili tua 4.42pm ddydd Mercher

Mae Heddlu Gwent wedi dweud nad ydyn nhw'n trin marwolaeth dyn yng Nghaerffili fel un amheus.

Cafodd corff y dyn ei ddarganfod yng Nghaerffili ddydd Mercher.

Roedd yr heddlu wedi cau ardal ger Mornington Meadows lle cafodd y corff ei ddarganfod.

Cafodd yr heddlu eu galw am tua 4:42pm wedi i'r corff gael ei ddarganfod yn Nôl yr Eos.

Aeth plismyn a pharafeddygon i'r safle ond roedd y dyn wedi marw. Credir ei fod yn ei 50au.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101.