BBC Cymru Fyw

Abertawe yn herio Arsenal yng Nghwpan yr FA

Published
image copyrightGetty Images
image captionSgoriodd Danny Graham gôl hwyr i sicrhau gêm gyfartal i Abertawe yn erbyn Arsenal yn y gêm gyntaf
Bydd Abertawe'n teithio i Brighton ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr os ydyn nhw'n curo Arsenal nos Fercher.
Roedd y gêm gyntaf ar Ionawr 4 yn gyfartal, 2-2, yn Stadiwm y Liberty.
Mae holl aelodau carfan yr Elyrch yn holliach.
Ond ni fydd yr asgellwr o Wlad Belg Roland Lamah yn gallu chwarae am nad oedd wedi ei gofrestru pan chwaraewyd y gêm gyntaf.

15 gêm

Bydd Arsenal heb yr amddiffynnwr Laurent Koscielny am ei fod wedi ei wahardd rhag chwarae ac mae'n annhebygol y bydd y chwaraewr canol cae Mikel Arteta yn chwarae oherwydd anaf.
Mae Abertawe wedi sgorio ym mhob un o'u 15 gêm ddiwethaf yng Nghwpan yr FA.
Y tro diwethaf iddyn nhw fethu â sgorio oedd yn erbyn Ipswich yn y bedwaredd rownd yn 2007.
Dywedodd rheolwr Abertawe, Michael Laudrup: "Y gynghrair yw'r gystadleuaeth bwysica' ond fe ddywedais i ar ddechrau'r tymor fy mod yn i'n mwynhau chwarae yng nghystadlaethau'r cwpanau.
"Mae gêm heno yn bwysig. Mae'r gallu gennym i ennill, a bydd canlyniad da yn rhoi hyder i ni."
Bydd y gêm yn Stadiwm Emirates am 7:30pm.

Straeon perthnasol

  • Everton 0-0 Abertawe