BBC Cymru Fyw

Plismyn newydd: £4,000 yn llai o gyflog

Published
image copyright(C) British Broadcasting Corporation
image captionMae Ffederasiwn yr Heddlu yn dweud eu bod nhw'n siomedig gyda'r penderfyniad
Fe fydd plismyn newydd yng Nghymru a Lloegr yn derbyn £4,000 yn llai o gyflog bob blwyddyn.
Mae'r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, wedi cadarnhau mai £19,000 fydd cyflog dechreuol plismyn ar ôl i adolygiad gael ei gynnal o'u cyflogau a'u hamodau gwaith.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref y byddai'r diwygiadau yn rhan o raglen i "foderneiddio cyflogau a thelerau plismyn".
Mae Ffederasiwn yr Heddlu yn dweud eu bod nhw'n siomedig gyda'r penderfyniad.

Trafodaethau

Dywedodd cadeirydd y Ffederasiwn yng Nghymru a Lloegr, Steve Williams: "Er ein bod yn siomedig â rhai o awgrymiadau'r adolygiad rydym yn cydnabod bod yr Ysgrifennydd Cartref wedi parchu proses Bwrdd Trafod yr Heddlu.
Ychwanegodd fod y Ffederasiwn yn derbyn bod y penderfyniad yn eu gorfodi i dderbyn penderfyniad Mrs May.
Cafodd awdur yr adolygiad, Tom Winsor, ei benodi fel Prif Arolygydd Heddluoedd Cymru a Lloegr y llynedd.
Mae Mr Winsor wedi argymell y gallai cyflogau plismyn gael eu torri o £1 biliwn.
Mae Mrs May wedi gohirio cynlluniau i ganiatau i luoedd ddiswyddo swyddogion wrth i drafodaethau barhau.

Straeon perthnasol

  • Swydd Comisiynydd yn 'llawn amser'