Tro pedol ar greu paneli lleol i drafod cau ysgolion

Dosbarth
Image caption Roedd gweinidogion am ddiwygio'r drefn o wneud penderfyniadau am ddyfodol ysgolion

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r gorau i gynlluniau i greu paneli lleol a fyddai'n penderfynu a fyddai ysgolion yn cau ai peidio.

Yn hytrach fe fydd penderfyniadau am gau neu uno ysgolion yn parhau i gael eu gwneud gan gynghorau lleol.

Mae'r gwrthbleidiau wedi croesawu'r tro pedol gan Leighton Andrews, Gweinidog Addysg Cymru.

Roedd 'na gryn wrthwynebiad i'r cynllun a oedd i fod yn wreiddiol i ddiwygio'r system o ad-drefnu ysgolion.

Ar hyn o bryd mae'r cynlluniau i gau ysgolion yn cael eu cyfeirio at y gweinidog pan fo gwrthwynebiad.

Ond cwyn Mr Andrews oedd bod y broses yn cymryd gormod o amser.

Roedd o am greu panel o bum aelod - a fyddai'n cynnwys cynghorwyr ac aelodau lleyg - a fyddai'n gwneud penderfyniad ar gynlluniau dadleuol i gau neu uno ysgolion.

System effeithiol

Byddai'r paneli wedi gorfod gwneud penderfyniad pan fyddai gwrthwynebwyr penodol yn cwyno, er enghraifft rhieni neu Aelod Seneddol lleol.

O dan y drefn, dim ond cynlluniau fyddai'n derbyn gwrthwynebiad gan gynghorau eraill neu a oedd yn ymwneud â'r chweched dosbarth fyddai wedi cael eu trosglwyddo i'r gweinidog.

Roedd y newidiadau, a oedd ym Mesur Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru), i fod i greu system fwy effeithiol i wneud yn siŵr fod penderfyniadau am gau ysgolion yn cael eu gwneud yn lleol.

Mae rhannau eraill o'r mesur yn ei gwneud yn haws i gynghorau i ymyrryd mewn ysgolion pan mae 'na bryderon am safonau.

Mae'r mesur hefyd yn caniatáu i ysgolion amrywio pris cinio ysgol er mwyn cynorthwyo teuluoedd ar incwm isel.

Ond mae 'na wrthwynebiad wedi bod i greu'r paneli lleol, gan gynnwys gan rai undebau athrawon.

Wrth roi tystiolaeth i'r mesur y llynedd, dywedodd y cyfreithiwr Michael Imperato, sy'n arbenigo mewn addysg, wrth bwyllgor o Aelodau Cynulliad bod y paneli mewn perygl o fod yn "lys cangarŵ".

Symlrwydd

Roedd Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno gwelliannau mewn ymateb i bryderon ar ôl i Mr Andrews gyfarfod rhai gwrthwynebwyr.

Bydd ACau yn pleidleisio ar y mesur yn y Senedd ddydd Mawrth.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru petai'r gwelliannau yn cael eu pasio y byddai penderfyniadau ar gau ysgolion ddim yn mynd at y paneli bellach ac mai penderfyniad yr ACau oedd cymeradwyo'r mesur ai peidio.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Simon Thomas, bod y blaid eisiau gweld "rhywbeth lot symlach y gallai pobl ddeall".

"Mae'n iawn ac yn gywir bod awdurdodau addysg lleol gyda'r pwerau i wneud y penderfyniadau yma."

Ychwanegodd y Democrat Rhyddfrydol Aled Roberts bod Mr Andrews "wedi cael trafodaethau ac wedi cael yr awgrym mai'r awdurdodau lleol oedd y ffordd orau ymlaen".

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.