Dadlau am newid ffiniau seneddol

Meinciau yn Nhŷ'r Cyffredin Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Gallai'r cynlluniau i newid ffiniau Seneddol olygu fod dros hanner yr Aelodau Senedddol Cymreig yn colli'u seddi

Mae cynlluniau Llywodraeth San Steffan i gwtogi ar nifer yr Aelodau Seneddol Cymreig wedi cael ergyd yn Nhŷ'r Arglwyddi.

Ddydd Llun fe bleidleisiodd aelodau o 300 i 231 i ohirio newidiadau i ffiniau seneddol tan ar ôl yr etholiad cyffredinol nesa'.

Dyma'r tro cynta' i weinidogion y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol bleidleisio yn erbyn ei gilydd ers ffurfio'r glymblaid.

Yn ôl gweinidogion, fe ddylai Cymru gael 30 yn hytrach na 40 Aelod Seneddol yn San Steffan fel rhan o gynllun i leihau maint Tŷ'r Cyffredin o 650 i 600 a sicrhau fod Aelodau Seneddol yn cynrychioli tua'r un faint o etholwyr.

Ond mae'r gwrthbleidiau yn dadlau fod y newidiadau'n annheg ac y bydd y Ceidwadwyr yn elwa yn fwy nag unrhyw blaid arall.

Bydd y mesur nawr yn dychwelyd i Dŷ'r Cyffredin.

Hyd yn oed petaen nhw'n cefnogi'r mesur, mae'r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg wedi dweud y byddai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn pleidleisio yn erbyn y ffiniau newydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Petai'r ffiniau seneddol yn cael eu diwygio, mae Llywodraeth y DU wedi argymell newid etholaethau'r Cynulliad i gydfynd â'r map gwleidyddol newydd - fyddai'n golygu 30 o Aelodau Cynulliad yn hytrach na'r 20 sy'n cael eu dewis o restrau rhanbarthol.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.