BBC Cymru Fyw

Rheng ôl ar newydd wedd yn erbyn Bayonne

Published
image copyrightAFP
image captionMewnwr Cymru Mike Phillips: Ar y fainc
Mae rheng ôl y Dreigiau ar ei newydd wedd yn erbyn Bayonne nos Iau, hynny yw y capten Lewis Evans, Ieuan Jones a Jevon Groves.
Dyw'r blaenasgellwr Tom Brown ddim yn chwarae ac mae Toby Faletau ar y fainc.
Dywedodd Bayonne fod mewnwr Cymru, Mike Phillips, ymhlith eu heilyddion.
Mae hyfforddwr y Cymry Darren Edwards wedi dweud y byddai'r gêm yng Nghwpan Amlin yn anodd bum niwrnod ers colli i Connacht.
"Mae angen egni a chanolbwyntio.
"Y gêm yn erbyn Connacht oedd y drydedd o fewn 10 diwrnod ac roedd hynny'n amlwg yn ystod y 30 munud gynta'.
"Yn sicr, mae gêm yn Stade Jean Dauger yn Ne Ffrainc ar nos Iau yn heriol."
Collodd y Dreigiau 22-19 gartre' yn erbyn Bayonne ym mis Hydref.
Timau
Bayonne: Sam Gerber; Gabriele Lovobalavu, Thibault Lacroix, Lionel Mazars (capten), Bastien Fuster; Jacques-Louis Potgieter, Guillaume Rouet; Pierre-Philippe Lafond, Anthony Etrillard, Renaud Boyoud, Rob Linde, Matt Graham, Abdellatif Boutaty, Jean Jo Marmouyet, Marc Baget-Rabarou.
Eilyddion: David Roumieu, Nemiah Tialata, Marc Legras, Dewald Senekal, Julien Puricelli, Mike Phillips, Manu Ahotaeiloa, Matthieu Ugalde.
Dreigiau: Tom Prydie; Will Harries, Adam Hughes, Andy Tuilagi, Mike Poole; Steffan Jones, Jonathan Evans; Owen Evans, Hugh Gustafson, Nathan Buck, Adam Jones, Rob Sidoli, Jevon Groves, Lewis Evans (capten), Ieuan Jones.
Eilyddion: Sam Parry, Nathan Williams, Tim Ryan, Andrew Coombs, Toby Faletau, Wayne Evans, Ashley Smith, Jack Dixon.
Dyfarnwr: Andrew Small (Lloegr)
Y gic gynta': 7.45pm

Straeon perthnasol

  • Mike Phillips yn cael ei wahardd

  • Ffrainc yn cynnig her newydd i Mike Phillips