BBC Cymru Fyw

S4C yn agor Canolfan Gyfryngau

Published
image copyright(C) British Broadcasting Corporation
image captionMae nifer o gwmnïau eisoes wedi agor swyddfeydd yn y ganolfan newydd

Mae S4C yn agor ei Chanolfan Gyfryngau newydd ar ei safle ym Mharc Tŷ Glas Caerdydd yn swyddogol ddydd Gwener.

Mae'r ganolfan yn lleoliad i gwmnïau o'r diwydiannau creadigol i weithio gyda'i gilydd ar y safle.

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones ei fod yn gobeithio y bydd y fenter yn dod â manteision i S4C ac i'r sector creadigol yng Nghymru.

Y cwmnïau a sefydliadau cyntaf i symud i'r ganolfan yw Cyfle, Asiantaeth ffilm Cymru, Gorilla, Mr Producer, Media 4 a Rights.TV

Mae swyddfeydd y cwmnïau allanol Dolphin a Buffalo Sound Recorder eisoes wedi eu lleoli yno.

'Rhannu cryfderau'

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones: "Mae gan S4C safle gwych yma yn Llanisien yn y brifddinas, ac mae agoriad y Ganolfan Gyfryngau newydd yma'n fodd o rannu cryfderau gyda chwmnïau ar draws y diwydiannau creadigol.

media captionStephen Hughes aeth i weld y ganolfan newydd yng nghwmni Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Phartneriaethau S4C.

"Dwi'n mawr obeithio y bydd y ganolfan yn nodweddiadol o'r bwrlwm creadigol sydd wastad yn bodoli o fewn y sector darlledu ac yn y cyfryngau yn gyffredinol.

"I S4C, mae gwneud yn fawr o'r adnoddau sydd gyda ni yn bwysig iawn ac wrth agor ein drysau a chroesawu cwmnïau allanol, ry'n ni'n creu cyfle economaidd i hybu'n gwasanaethau yn y pen draw."

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg fis Awst y llynedd, dywedodd Mr Jones ei fod yn awyddus i ddatganoli rhannau o S4C, a hynny i dri safle - un o bosib yn y gorllewin neu'r canolbarth, yn ogystal ag un yn y de ac un yn y gogledd.

Ym mis Hydref, cyhoeddodd y sianel y byddan nhw'n cynnal astudiaeth i'r posibilrwydd hwn.

Dywedodd Mr Jones ei fod am sicrhau fod buddiannau economaidd gwaith S4C yn cael eu rhannu ar draws Cymru lle bo hynny'n bosib.

Straeon perthnasol

  • Eos ac S4C yn dod i gytundeb