Carchar am 13 blynedd ar ôl ceisio lladd cyn-gariad
- Cyhoeddwyd
Mae dyn geisiodd lofruddio ei gyn-gariad â chyllell wedi cael ei garcharu am 13 blynedd.
Cyfaddefodd Liam Jones, 22 oed, iddo geisio lladd Rebecca Williams ychydig ddyddiau cyn bod y ddau i fod i briodi.
Roedd Ms Williams, 21 oed, wedi ceisio dod â'u perthynas pedair blynedd i ben drwy anfon neges destun i Jones yn dweud ei bod wedi ailddechrau perthynas â Gary Thompson wedi i'r ddau ddod i gysylltiad ar wefan Facebook.
Clywodd Llys y Goron Merthyr Tudful fod Jones wedi gafael yn y gyllell fwyaf yn ei gartref yn Aberhonddu a gyrru i'r tŷ lle oedd Rebecca yn byw gyda'i rhieni ryw 15 milltir i ffwrdd.
Roedd Jones wedi ei thrywanu deg o weithiau yn ei brest cyn torri ei gwddf a gweiddi: "Wna' i ddim gadael i Gary dy ga'l di."
Bu'n rhaid i Ms Williams gael llawdriniaeth frys i achub ei bywyd oherwydd niwed difrifol i'w hiau ac anafiadau eraill.
'Tymer wyllt'
Dywedodd yr erlynydd Paul Hobson fod y ddau wedi bod mewn cariad a'u bod yn bwriadu priodi ar Fehefin 27 y llynedd.
"Mis cyn hynny daeth Ms Williams â'r berthynas i ben a symud yn ôl i fyw at ei rhieni," meddai.
"Daeth y mater i'r pen pan anfonodd neges destun at Jones yn dweud ei bod wedi ailgynnau perthynas gyda chyn-gariad iddi, Gary Thompson.
"Aeth Jones adref i nôl y gyllell fwyaf oedd ganddo yn y gegin cyn dychwelyd i gartref Ms Williams, ac ymosod arni."
Daeth cymdogion o hyd i Ms Williams ar lawr ac yn cael trafferth anadlu.
Pan gafodd ei arestio, dywedodd Jones: "Mae'n ddrwg gen i - doeddwn i ddim wedi bwriadu gwneud.
"Os nad oeddwn i am ei chael hi, doedd neb arall am ei chael hi chwaith."
Plediodd yn euog o geisio llofruddio a dywedodd y barnwr Ustus Wyn Williams: "Ar ôl canfod bod Rebecca Williams mewn perthynas gyda dyn arall, fe wnaethoch chi ei thrywanu mewn tymer wyllt.
"Roedd un ergyd o'r gyllell wedi torri ei iau, a'r tebygrwydd yw y byddai wedi marw oni bai am ymyrraeth feddygol a llawdriniaeth."