Gallai Michu fynd 'am y pris iawn' medd Chris Coleman

Michu yn dathlu ei gôl yn erbyn Arsenal ddydd Sul Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Michu yn dathlu ei gôl yn erbyn Arsenal ddydd Sul

Fe fydd yn anodd i glwb pêl-droed Abertawe wrthod cynnig mawr am eu prif sgoriwr Michu, yn ôl rheolwr Cymru Chris Coleman.

Sgoriodd Michu, a ddaeth i'r Liberty o Rayo Vallecano yn Sbaen am £2m dros yr haf, ei 15fed gôl y tymor hwn yn erbyn Arsenal ddydd Sul.

Nid yw Coleman yn disgwyl i'r chwaraewr 26 oed symud yn y ffenest drosglwyddo ym mis Ionawr, ond mae'n credu y bydd Abertawe yn ei werthu yn yr haf os yw'r pris yn iawn.

"Fydd hi ddim yn hawdd iddyn nhw ddal eu gafael ohono," meddai Coleman.

"Os oes unrhyw chwaraewr yn Abertawe yn perfformio fel Michu, yna mae'r clybiau mawr yn mynd i ddod i chwilio, ac os ydyn nhw am ei gael yn ddigonol, fe wnawn nhw dalu unrhyw bris.

"Cymaint ag y mae Abertawe am ei gadw, fyddan nhw ddim yn gallu gwrthod hynny."

Sgoriodd Michu - neu Miguel Perez Cuesta i roi ei enw llawn iddo - ei 15fed gôl mewn 24 ymddangosiad y tymor hwn yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr dros y penwythnos.

Dim ond Robin van Persie o Man Utd a Luis Suarez o Lerpwl sydd wedi sgorio mwy o goliau na Michu (13) yn Uwchgynghrair Lloegr y tymor hwn.

Eisoes mae clwb Atletico Madrid o Sbaen wedi dangos diddordeb ynddo, ac mae sibrydion bod nifer o glybiau'r Uwchgynghrair yn Lloegr hefyd yn awyddus i'w brynu.