BBC Cymru Fyw

Trywanu yng Nghaerdydd: Rhyddhau ar fechnïaeth

Published
image captionYr heddlu yn cynnal ymchwiliad yn ardal Glan yr Afon
Mae dau o bobl a gafodd eu harestio ar ôl i ddyn 28 oed gael ei drywanu mewn tŷ yng Nghaerdydd wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Cafodd yr heddlu, gan gynnwys plismyn arfog, eu hanfon i Stryd Clare yn ardal Glan yr Afon am 11.34pm nos Sadwrn.
Fe gafodd y dyn 28 oed ei anafu ond dyw ei fywyd ddim mewn peryg.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn parhau i ymchwilio.