BBC Cymru Fyw

Trywanu: Arestio dau

Published
image captionYr heddlu yn cynnal ymchwiliad yn ardal Glan yr Afon
Mae Heddlu'r De wedi arestio dau ddyn ar ôl i ddyn 28 oed gael ei drywanu mewn tŷ yng Nghaerdydd.
Cafodd yr heddlu, gan gynnwys plismyn arfog, eu hanfon i Ffordd Clare yn ardal Glan yr Afon am 11.34 nos Sadwrn.
Fe gafodd y dyn 28 ei anafu, ond dyw ei fywyd ddim mewn peryg.
Dywed yr heddlu eu bod yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad.