BBC Cymru Fyw

Marwolaeth ddim yn un amheus

Published
Dywed Heddlu'r De nad oes yna amgylchiadau amheus am farwolaeth dyn y cafwyd hyd iddo ym Marina Penarth ym Mro Morgannwg.
Cafodd corff y dyn 57 oed ei ddarganfod yn y dŵr ddydd Gwener.
Dyw'r heddlu heb ryddhau enw'r dyn ond credir ei fod yn lleol.
Dywedodd llefarydd y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â nhw ar 101.