Canlyniadau'r Pro12
- Cyhoeddwyd
Munster 6-17 Gleision
Fe roedd yna fuddugoliaeth haeddiannol i'r Gleision yn Munster.
Croesodd y Gleision am ddau gais. Yr asgellwr Owen Williams a'r wythwr Robin Copeland yn sgorio i'r ymwelwyr.
Cyn hynny roedd Rhys Patchell a Ronan O'Gara wedi cicio cig gosb yr un.
Croesodd Williams ar ôl 43 munud., dim ond i O'Gara daro nôl gyda chic cob arall.
Sicrhawyd y pwyntiau pan groesodd Copeland ar ôl 70 munud.
Connacht 30-11 Y Dreigiau
Roedd y tîm cartref yn falch o'r fuddugoliaeth ar ôl colli pedwar gem yn olynol yn y Pro12 cyn cwrdd â'r Dreigiau.
Fe wnaeth cyn faswr y Gleision Dan Parks roi Connacht 6-0 ar y blaen gyda dwy gic gosb.
Yna yn dilyn hyrddiad ymlaen gan Mike McCarthy dyfarnwyd cais gosb i'r tîm cartref.
Fe wnaeth cais gan George Naoupu roi Connacht 20-0 ar y blaen cyn i Tom Prydie daro nôl gyda chic cosb i'r Dreigiau cyn yr egwyl
Yn yr ail hanner fe groesodd Danie Poolman i Connacht, gyda Jonathan Evans yn sgorio cais cysur yn hwyr yn y gêm i'r Dreigiau.