BBC Cymru Fyw

Macclesfield 2-1 Caerdydd

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
image captionNat Jarvis yn sgorio
Roedd tîm ifanc Caerdydd o fewn chwe munud i gyrraedd pedwaredd rownd Cwpan Lloegr, cyn i Macclesfiled daro dwywaith o fewn tri munud.
Daeth gôl Caerdydd ar ôl 56 munud gyda Nathaniel Jarivs yn sgorio o fewn y blwch chwe llaeth, ei ergyd i gornel chwith y gol.
Daeth Macclesfield yn gyfartal gyda dim ond chwe munud o amser arferol yn weddill.
Matthew Barnes-Homer yn sgorio.
Yna o fewn munudau dyfarnwyd cic o'r smotyn i'r tîm cartref.
Barnes-Homer yn sicrhau ei ail gol a gôl fuddugol Macclesfield.
Hwn yw'r tro cyntaf i Macclesfield o gynghrair Blue Square gyrraedd y 4ydd rownd.
Er bod yr hanner cyntaf yn gystadleuol prin iawn oedd y cyfleoedd.
Roedd Caerdydd wedi gwneud 11 o newidiadau o'r tîm oedd yn fuddugol yn erbyn Birmingham yn y gynghrair ar Ddydd Calan.
Macclesfield: Cronin, Brown, Braham-Barrett, Martin, Mills, Murtagh, Wedgbury, Henry, Kissock, Barnes-Homer, Morgan-Smith.
Eilyddion: Mills,Diagne, Mackreth, Konadu-Yiadom, Winn, Fairhurst, Gnahoua
Caerdydd: Lewis, McNaughton, Nugent, Oshilaja, Kiss, Harris, Ralls, McPhail, John, Velikonja, Jarvis.
Eilyddion: Parish, Coulson, Mansaray, O'Sullivan, Wharton, Darco, Hill.