BBC Cymru Fyw

Canlyniadau Uwchgynghrair Cymru

Published

Dydd Sadwrn, Ionawr 5

Aberystwyth 4-1 Prestatyn

Airbus g-g Lido Afan

Cei Connah 1-1 Caerfyrddin

Llanelli 2-2 Bangor

Port Talbot 2-1 Bala

Y Drenewydd 1-1 Y Seintiau Newydd

Roedd yna sioc yn Aberystwyth wrth i'r tîm cartref roi cweir i Brestatyn, y tîm oedd yn yr ail safle ar ddechrau'r chwarae.

Cafodd Mark Jones hat-tric, gyda Jordan Follows yn sgorio gôl arall y tîm cartref.

Daeth unigol gol Prestatyn ar ddiwedd y gêm gan Andy Parkinson ( 90'+5)

Roedd pwynt yn Llanelli yn ddigon i sicrhau fod Bangor yn symud i'r ail safle ar wahaniaeth goliau.

Chris Simm (50' a 67') sgoriodd i Fangor. Aeth Llanelli ar y blaen wedi 18 munud diolch i Martin Rose. Ond bu'n rhaid i Lanelli ddiolch i gic o'r smotyn gan Antonio Corbisiero (85') er mwyn sicrhau pwynt.

Roedd Y Drenewydd yn gobeithio am ganlyniad annisgwyl ar ôl i Craig Williams eu rhoi ar y blaen ar ôl 30 munud. Ond fe darodd y Seintiau Newydd yn ôl yn yr ail hanner gyda gôl gan Mike Wilde (58')

Cafodd y gêm rhwng Airbus a Lido Afan ei gohirio.