BBC Cymru Fyw

Yr heddlu yn chwilio am glaf

Published
image copyrightOther
image captionGeorge Fox
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ceisio dod o hyd i glaf sydd wedi dianc o ysbyty sy'n darparu ar gyfer pobl a salwch meddwl.
Fe gofnodwyd absenoldeb Geroge Fox, 37 oed, o Aderyn yn Goetre, ger Y Fenni ddydd Iau.
Dywed yr heddlu nad ydynt yn ystyried fod Mr Fox yn fygythiad i'r cyhoedd, ond mae'n bosib y bydd ei ymddygiad yn mynd yn fwy anwadal.
Mae ganodd gysylltiadau gyda Sir Gaerfyrddin, Ceredigion ac Abertawe.
Dylai'r cyhoedd gadw'n glir, a phe bai nhw'n ei weld dylid cysylltu â'r heddlu ar 101.
Mae Mr Fox yn chwe throedfedd dwy fodfedd gyda gwallt du/lwyd ac yn siarad gydag acen Gymreig.
Mae ganodd nifer o datŵs ar ei freichiau a'i wddw gyda'r enw 'Kayleigh' ar ei wddw.