BBC Cymru Fyw

Bywyd ynys

Published
image copyright(C) British Broadcasting Corporation
image captionFe fydd y dyddiaduron yn cael eu cadw yn archifdy'r sir
Bydd tua 120 o ddyddiaduron yn cael eu cyflwyno i Archif Ynys Môn fel rhan o brosiect i groniclo bywyd dyddiol ar yr ynys.
Mae dyddiaduron 2012 yn ymdrin ag estyn eang o bynciau gan gynnwys nodiadau ar fyd natur, faint yw cost nwyddau a'r tywydd.
Mae'r rhain sy'n cyfrannu yn amrywio o ddyn sydd wedi cadw'r dyddiadur am 53 blwyddyn, i berson 22 oed wnaeth ddechrau cadw dyddiadur yn 2012.
"Fe wnaeth y prosiect ddechrau fel rhan o brosiect ehangach oedd yn ymwneud â hanes llafar yr ynys," meddai Bethan Hughes Morris, cydlynydd dysgu gydol oes y sir.
"Roeddem o'r farn y byddai'n ffordd dda i gofnodi blwyddyn yn hanes yr ynys, ac mae yna groestoriad da o bobl yn cymryd rhan."
Un o'r rhain yw Ken Owen o Lanfechell sydd wedi bod yn cadw dyddiadur am 53 o flynyddoedd.
"Mae'n cymryd gafael arnoch ac rydych yn edrych ymlaen at wneud nodyn o'r hyn sy'n digwydd yn y byd neu yn ardal eich hun," meddai.
Fe wnaeth Lowri Fon, 22 o Amlwch, ddechrau cadw dyddiadur yn 2012.
Dywedodd ei bod wedi dysgu o'r profiad.
"Rydym wedi bod yn edrych ar achau'r teulu dros y blynyddoedd diwethaf, a byddai wedi bod yn ffantastig pe bai hen nain wedi gwneud rhywbeth fel hyn."
Dywedodd wrth edrych yn ôl ar y flwyddyn mae rhywun yn sylweddoli gymaint sydd wedi digwydd.
Nawr mae'r prosiect yn awyddus i ddenu mwy o bobl i gyfrannu.
Yn ogystal â'r dyddiaduron mwy traddodiadol fe fydd pobl sy'n cadw dyddiadur yn 2013 hefyd yn gallu ysgrifennu blog neu recordio eu sylwadau i ddisg.

Straeon perthnasol

  • Darlun o fywyd sir mewn dyddiaduron