Robert Earnshaw 'ddim yn rhan o gynlluniau' Mackay

Robert Earnshaw
Image caption Roedd Robert arnshaw ar fenthyg i Maccabi Tel Aviv am y tymor

Mae'n annhebyg y bydd ymosodwr Clwb Pêl-droed Caerdydd Robert Earnshaw yn chwarae i dîm cyntaf yr Adar Gleision ar ôl dychwelyd o Israel.

Roedd Earnshaw ar fenthyg i Maccabi Tel Aviv am y tymor.

Ond mae wedi dychwelyd yn gynnar i Gymru.

Nid yw Earnshaw, sydd wedi chwarae 58 tro dros Gymru, yn fodlon dweud pam nad yw wedi gorffen y tymor gyda'r tîm o Israel.

Dywedodd rheolwr Caerdydd Malky Mackay ei fod yn annhebyg y bydd yr ymosodwr 31 oed yn chwarae i'r tîm cyntaf, sydd ar hyn o bryd ar frig y Bencampwriaeth.

"Rwy'n tybio y bydd e'n ceisio chwarae gemau ond fydd e ddim yn llwyddo," meddai.

Ac mae'n bosib y bydd Caerdydd yn gwerthu Earnshaw cyn diwedd y mis.

"Bydd yn rhaid i ni aros i weld beth fydd yn digwydd ond rwy'n teimlo'n iach ac rwy'n barod i fod yn rhan o'r garfan," meddai Earnshaw.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.