BBC Cymru Fyw

George North yn cael ei anafu wrth i Ulster guro'r Scarlets

Published
image copyrightPress Eye
image captionCafodd George North ei daro yn ei ben gan ben-glin un o'i wrthwynebwyr

Ulster 47-15 Scarlets

Mae 'na amheuaeth a fydd George North ar gael ar gyfer gêm agoriadol Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ymhen y mis.

Cafodd asgellwr Cymru a'r Scarlets ei gludo oddi ar y cae yn ystod buddugoliaeth Ulster yn erbyn y Scarlets o 47-15 yn Ravenhill nos Wener.

Cafodd North ergyd i'w ben mewn gwrthdrawiad damweiniol.

Mae Cymru yn wynebu Iwerddon yn Stadiwm y Mileniwm ar Chwefror 2.

Fe wnaeth Ulster, sydd ar frig tabl y Pro12 sgorio pum cais yn yr ail hanner i chwalu'r ymwelwyr.

Roedden nhw ar y blaen o 9-3 ar yr hanner arôl tair cic gosb i Ruan Pienaar.

Robbie Diack, Nick Williams, Andrew Trimble a Neil McComb gafodd geisiau'r tîm cartref yn ogystal â chais cosb.

Llwyddodd y Scarlets i gael dau gais wedi'r hanner drwy Josh Turnbull a Scott Williams yn yr amser a ganiatawyd am anafiadau.

Ond doedd y cais cysur yn fawr o hwb i'r Scarlets.

Mae'r canlyniad yn gweld Ulster yn dal eu gafael ar y brig a'r Scarlets yn syrthio i'r pumed safle.