BBC Cymru Fyw

Y Gweilch 16-15 Zebre

Published

Y Gweilch 16-15 Zebre

Dan Biggar oedd seren Y Gweilch nos Wener wrth iddo sgorio holl bwyntiau'r tîm cartref.

Pwynt yn unig oedd rhyngddyn nhw a Zebre o'r Eidal a allai yn hawdd fod wedi sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yn y gystadleuaeth.

Roedd Y Gweilch ar ei hôl hi o 6-8 ar yr hanner ac fe lwyddodd Yr Eidalwyr i sgorio dau gais yn y gêm o'i gymharu ag un y tîm cartref.

Ond roedd cais, trosgais a thair cic gosb Biggar yn ddigon i roi'r fuddugoliaeth i'r Gweilch.

Alberto Chillon giciodd yn llwyddiannus gic gosb gynnar i'r ymwelwyr cyn cael cais.

Tito Tebaldi gafodd ail gais yr ymwelwyr wrth i Daniel Halangahu ei drosi.