BBC Cymru Fyw

Bala 2-2 Y Seintiau Newydd

Published
Bala 2-2 Y Seintiau Newydd
Un gêm oedd 'na yn Uwchgynghriair Cymru nos Fercher wrth i'r Bala groesawu'r tîm sydd ar frig y gynghrair i Faes Tegid.
Llwyddodd Y Bala, oedd yn y 10fed safle, i gael gêm gyfartal yn erbyn Y Seintiau Newydd.
Mae mantais Y Seintiau wedi codi i saith pwynt.
Yr ymwelwyr aeth ar y blaen wedi chwe munud pan lwydodd Mike Wilde gyda chic o'r smotyn.
Daeth Y Bala yn gyfartal wedi 46 munud gydag ergyd lwyddiannus Marc Connolly.
Ond fe lwyddodd Wilde eto i roi'r Seintiau yn ôl ar y blaen.
A munud wedi'r 90 fe ddaeth ergyd gan Tony Davies â phwynt i'r Bala.
Ychydig dros 200 o dorf oedd ym Maes Tegid.