BBC Cymru Fyw

Jamie Roberts yn wynebu Munster

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
image captionAnafodd y chwaraewr 26 oed ei benelin yn erbyn Awstralia yn Rhagfyr.
Bydd canolwr Cymru, Jamie Roberts, yn nhîm y Gleision yn erbyn Munster yn y gêm Pro12 ddydd Sadwrn.
Anafodd y chwaraewr 26 oed ei benelin yn erbyn Awstralia yn Rhagfyr.
Mae disgwyl i Leigh Halfpenny fod yn holliach ar gyfer y gêm yn erbyn y Gwyddelod.
Cafodd anafiadau i'w wddf yn erbyn Awstralia.
Trechodd y Gleision y Dreigiau ar Wyl San Steffan ar ôl colli pedair gêm yn olynol.
Er bod Munster wedi ennill pump allan o chwe gêm yn y Pro12 dim ond un gêm sy' wedi ei hennill gartre' ymhob cystadleuaeth.
Dyw'r Gleision ddim wedi trechu'r Gwyddelod oddi cartre' ers Hydref 2007.

Straeon perthnasol

  • Roberts yn ystyried ei ddyfodol