Marwolaeth yn Y Rhyl: Cyhoeddi enw menyw

Car heddlu
Image caption Cafodd y gwasanaethau brys eu galw amser cinio ddydd Sul

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw menyw 32 oed fu farw yn Y Rhyl.

Daethpwyd o hyd i gorff Ruth Emily Hepton yn ei chartref yn ardal Kingsley Avenue amser cinio ddydd Sul.

Mae cwest wedi ei agor a'r crwner yn disgwyl am ganlyniadau gwenwyneg.

Dywedodd yr heddlu fod y farwolaeth "heb esboniad".

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.