BBC Cymru Fyw

Beiciwr modur wedi marw

Published
Mae beiciwr modur 22 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad am 3.07pm ddydd Llun.
Digwyddodd y ddamwain ar Stryd Gwendoline, Blaengarw, ger Pen-y-bont ar Ogwr.
Bu farw'r dyn lleol yn Ysbyty Tywysoges Cymru.
Ar hyn o bryd, credir nad oedd cerbyd arall yn gysylltiedig â'r ddamwain.
Dylai unrhyw dystion gysylltu â Heddlu'r De ar 101.