Marwolaeth yn Y Rhyl: Heddlu'n ymchwilio

Car heddlu
Image caption Cafodd y gwasanaethau brys eu galw amser cinio ddydd Sul

Mae'r heddlu yn ymchwilio i farwolaeth menyw 32 oed yn Y Rhyl.

Cafodd ambiwlans ei alw i dŷ yn ardal Kingsley Avenue amser cinio ddydd Sul.

Mae'r farwolaeth "heb esboniad" a'r crwner wedi ei hysbysu.

Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal ac mae'r teulu wedi cael gwybod.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.